Neidio i'r cynnwys

TV Breizh

Oddi ar Wicipedia
TV Breizh
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu Edit this on Wikidata
GwladBaner Llydaw Llydaw
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata
PerchennogTF1 Group Edit this on Wikidata
PencadlysBoulogne-Billancourt Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tvbreizh.fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae TV Breizh yn sianel deledu lloeren, y "sianel ranbarthol breifat gyntaf" (yn Ffrainc), a grëwyd yn 2000. Ni fu unrhyw raglenni yn yr iaith Lydaweg ers 2009. Lleolir y pencadlys yn ardal porthladd An Oriant.[1] Yn 2006 lansiwyd gwasanaeth teledu ar-lein brezhoweb sydd yn darlledu dim ond yn y Lydaweg ond mae'n annibynnol o TV Breizh.

Cyd-destun

[golygu | golygu cod]

Tennau iawn yw'r ddarpariaeth Llydaweg ei hiaith ar y cyfryngau. Yn 2000 roedd sianel France 3 Bretagne yn darlledu 1 awr 45 munud o raglenni yn Llydaweg yr wythnos, a TV Rennes 15 munud y mis.[2] Ceir cynrychiolaeth ychydig yn well ar y radio gyda darlledwyr rhanbarthol fel Radio Kerne, Radio Leon, ac Arvorig FM a sefydlwyd ym 1998, yn rhoi lle canolog i'r iaith a diwylliant Llydaweg.[2]

Yn y cyd-destun yma, roedd Patrick Le Lay , Prif Swyddog Gweithredol TF1, eisiau lansio sianel gyffredinol yn darlledu yn bennaf yn Llydaweg. Ei weledigaeth oedd sianel byddai'n darlledu rhaglenni ffuglen ac ieuenctid, am ddwy neu dair awr y dydd, ac y byddai ei linell olygyddol yn ymdrin â digwyddiadau cyfoes yn y pum département Llydaweg hanesyddol.[2]

Hanes y Sianel

[golygu | golygu cod]

Dyddiau cynnar

[golygu | golygu cod]
Pencadlys TV Breizh yn An Oriant
Logo'r sianel yn 2014

Crëwyd y sianel ar 1 Tachwedd 2000 fel menter gan y Prif Swyddog Gweithredol TF1, Patrick Le Lay, i roi delwedd genedlaethol i'w famwlad, Llydaw. Dilynwyd y prosiect gan Lydawiaid adnabyddus, fel Charles Biétry a Patrick Poivre d'Arvor.

Ysbrydolwyd amserlen gychwynnol y sianel ac integreiddio Llydaweg iddi gan S4C a'r sianel Wyddeleg, TG4. Roedd yn diffinio ei hun fel sianel o ddiddordeb cyffredinol, ond heb ddarllediadau newyddion, a'n canolbwyntio ar dair prif thema: Llydaw, Celtigrwydd a'r môr. Darlledwyd dwy awr ar bymtheg o raglenni yr wythnos rhwng 7:30am a 12:30am, gan gynnwys pum awr o raglenni oedd yn cael eu dangos am y tro cyntaf (dwy awr o raglenni wedi'u prynu a thair o raglenni wedi'u cynhyrchu).[3]

Lansiodd y sianel ddiwydiant o drosleisio cartwnau a ffilmiau animeiddiedig i Lydaweg gyda chefnogaeth Cyngor Rhanbarthol Llydaw. Daeth An Oriant, pencadlys y sianel wedi ymgypris brwd gan drefi eraill, yn ganolfan cyfryngol o bwys yn sgil lleoli TV Breizh yno.[1]

Newid cwrs

[golygu | golygu cod]
Logo yn 2019 (rhoddwyd dot ar yr 'i-dot'

O 2003 ymlaen, ymddiriedwyd y gwaith hwn i gymdeithas Dizale, a barhaodd heb gefnogaeth TV Breizh. Cafodd 341 awr o gartwnau animeiddiedig a 60 awr o ffilmiau a chyfresi eu trosleisio yn Llydaweg rhwng 2000 a 2008 ar gais TV Breizh. Ffilmiau poblogaidd ac amrywiol gan gynnwys Shakespeare in Love, The Untouchables, Apollo 13, Beethoven a mwy.

O 2002, dechreuodd y sianel ddarlledu newyddion nosweithiol am Lydaw Hanesyddol hynny yw y 5 département presennol sy'n cynnwys Naoned. Dyma oedd yr unig gyfrwng oedd yn ymdrin â Llydaw yn ei chyfanrwydd. Yn 2004, dilëwyd y rhaglenni newyddion hyn o blaid rhaglenni newyddion byrrach gyda dim ond lluniau a llai o nodwedd Llydaweg.

Yn ystod haf 2003, penderfynwyd cau'r sianel pan nad oedd y cyfranddalwyr yn gweld colledion ariannol heb arwydd o weld elw. Yn y diwedd, prynodd sianel Ffrangeg genedlaethol, TF1, y mwyafrif o'r cyfranddaliadau a phenderfynwyd newid polisi'r rhaglenni a chael gwared ar Rozenn Milin y cyfarwyddwr.[4] Ar 8 Medi 2003, cyhoeddodd penaethiaid TF1 a phenaethiaid newydd TV Breizh y byddai'r amser a neilltuwyd i raglenni "rhanbarthol" yn cael ei leihau oherwydd eu bod yn colli arian. Newidiwyd y rhaglenni i fod yn llai Llydewig ac yn fwy cyffredinol, er mwyn denu gwylwyr a dod yn fwy cynhwysfawr. Yn ystod tymor 2004-2005, unwyd TV Breizh a TV Match o dan yr un sianel. Caewyd yr ail ar 31 Awst 2005 heb i'r prosiect gael ei gwblhau.

Ceisiodd penaethiaid TV Breizh ymladd am amser hir gyda'r "Goruchaf Gyngor y diwydiadnt Clyweledol" yn Ffrainc, (CSA), i gael amledd hertzian analog lleol yn Llydaw - cais roedd y CSA wastad wedi gwrthod. Yn y cyfamser, tra'n gwrthod cais TV Breizh, derbyniodd y CSA un ar gyfer prosiect teledu lleol yn Nantes, sef y Socpresse ar gyfer Nantes 7. Yn yr un modd, ceisiodd TV Breizh am amledd ar SND (Teledu Digidol Daearol neu TNT) yn 2004, gwrthododd CSA y ceisiadau yma 3 gwaith.[5].

Diweddu darlledu yn Llydaweg

[golygu | golygu cod]

Ym mis Mehefin 2008, rhoddodd y sianel y gorau i ddarlledu rhaglenni yn Llydaweg. Yr unig gysylltiad bellach rhwng Llydaw a'r sianel yw lleoliad ei phencadlys yn ninas An Oriant, a chadwyd enw'r sianel oherwydd ei bod yn dal i fod yn brosiect economaidd llwyddiannus a byddai mewn perygl o osod yr enw wedi ei newid.

Rhaglennu

[golygu | golygu cod]
Peter Falk, prif gymeriad Columbo enghraifft o'r cyfresi Americanaidd sy'n cael ei ddarlledu ar TV Breizh a dim rhaglenni Llydaweg eu hiaith

I ddechrau, roedd nifer fawr o raglenni rhanbarthol ar deledu Breizh (newyddion, rhaglenni Llydaweg) ac roedden nhw wedi darlledu nifer o wyliau Celtaidd, fel Gŵyl Ryng-Geltaidd yn An Oriant neu'r 'Celtic Nights' yn y Stade de France. Yn dilyn ailstrwythuro'r sianel yn 2003, daeth y rhaglenni'n fwy byd-eang a darlledwyd mwy o raglenni Americanaidd a gaffaelwyd gan TF1, megis Columbo, Murder, She Wrote, neu Arabesque neu ffilmiau a sioeau ffantasi. Mae wedi dod yn sianel gebl a lloeren Ffrengig yn raddol, gan roi'r gorau i raglenni Llydaweg.

Nid yw rhaglenni newydd yn cael eu recordio bellach.

Perchnogaeth

[golygu | golygu cod]

Mae holl gyfranddaliadau TV Breizh wedi bod gyda Groupe TF1 ers 2007. Ar 17 Gorffennaf 2015 daeth Groupe TF1 yn berchennog llawn ar TV Breizh.

Gwerthodd Mediaset, grŵp Silvio Berlusconi, eu cyfran (14% o’r cyfrannau) o TV Breizh i’r cynhyrchydd Ffrengig a Thiwnisiad, Tarak Ben Ammar. Yn ôl gwybodaeth gan y banciau, byddai'r cyfnewid yn werth 5 miliwn ewro.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Florence Gourlay (2004) (yn fr), Lorient Une ville dans la mondialisation, Roazhon: Presses universitaires de Rennes, ISBN 978-2-86847-968-6
  2. 2.0 2.1 2.2 Michel Nicolas (Ionawr 2012), Breizh : La Bretagne revendiquée, Montroulez: Skol Vreizh, ISBN 978-2-915623-81-9
  3. Pierre Musso, « TV Breizh, télévision-miroir de la Bretagne ? », dans Dossiers de l'audiovisuel, Nodyn:Number, janvier-février 2001, consulté sur www.acrimed.org le 6 décembre 2012
  4. Le Drollec, Alexandre (décembre 2008), TV Breizh, chronique d'une mort annoncée, Bretons (cylchgrawn), pp. 22-24
  5. Ronan Le Flécher, « Le CSA évince une nouvelle fois TV BREIZH de la TNT ! », Agence Bretagne Presse, 09/05/2005
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.